2007
 

                     catrin@tyrfe-tawe.com

 

Tyrfe Tawe y Gorffennol:

2006

2005

2004
 

25 Ffaith Nad Oeddech Chi'n Gwybod am Tyrfe Tawe ac Abertawe:

1 - Mae "tyrfe" yn air Cymraeg sy'n golygu "taranau", neu 'thunder' yn Saesneg

2 - Mae oddeutu 50,000 (dros 20%) o drigolion Abertawe yn gallu'r Gymraeg (mwy nag unrhyw dref arall)

3 - Gwirfoddolwyr sy'n trefnu a chynnal Tyrfe Tawe bob blwyddyn

4 - Mae'r niferoedd sy'n mynychu Tyrfe Tawe wedi tyfu'n sylweddol yn flynyddol

5 - Mae dros hanner siaradwyr Cymraeg Cymru yn byw o fewn taith 30 munud i Abertawe

6 - Nid oes gan Tyrfe Tawe gysylltiad swyddogol gydag unrhyw fudiad neu gyfundrefn arall - gŵyl annibynnol yw hi

7 - Er y tag 'annibynnol' mae Tyrfe Tawe yn derbyn nawdd cyhoeddus yn ddiolchgar

8 - Mae elfen o genhadu yn amcanion Tyrfe Tawe.  Un nod yw i ddangos i bobl Abertawe ei bod yn bosib cael amser da drwy gyfrwng y Gymraeg

9 - Mae gan Abertawe gysylltiad gyda nifer o wŷr a gwragedd mawr llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, megis Waldo Williams, Saunders Lewis, Niclas y Glais, Dafydd Rowlands, Casnodyn, Alan Llwyd, Mererid Hopwood, Emyr Lewis, Robert Powell, Cilfa, Gwenallt, Gwyrosydd, Crwys, Aneirin Talfan Davies, Islwyn, a Lewis Glyn Cothi ymhlith eraill

10 - Tra fod gan Gaerdydd lawer sy'n well nag Abertawe, mae rhai pethau yn Abertawe nad oes eu curo yng Nghymru (yn wir, drwy Brydain).  Dau o'r pethau hyn yw noson dda ar y cwrw, a bae go iawn!

11 - Tyrfe Tawe 2007 fydd y 4ydd ŵyl.  Ond bu gwyliau cyffelyb yn y gorffennol yn Abertawe

12 - Mae gan Abertawe gysylltiad gyda nifer o wŷr a gwragedd mawr y sin roc Gymraeg, megis Huw Chiswell, Merched Becca, Neil Rosser, Aberjaber, Y Trwynau Coch, Brian Breeze, Meibion Mwnt, Y Llygaid, Y Tebot Piws, Edward H Dafis, Geraint Griffiths, Mynediad am Ddim, Injaroc, Gary Melville, a DJ Dai Brai ymhlith eraill

13 - Yn 1941 mewn tair (3) noson gollyngwyd 30,000 o fomiau ar Abertawe

14 - 'Roedd Dylan Thomas yn deall mwy o Gymraeg na'r hyn a ddywedir y dyddiau hyn

15 - Mae Tyrfe Tawe llawer, LAWER rhy cŵl i Gaerdydd

16 - Mae bron i chwarter miliwn o boblogaeth gan Dinas a Sir Abertawe

17 - Crogwyd Wil Crach (gwrthryfelwr Cymraeg) yn Abertawe.  Wrth ei grogi chwyddodd ei dafod yn enfawr, daeth ei lygaid allan o'u crau a hongian o flaen ei drwyn, a mygodd Wil i farwolaeth.  O fewn tridiau 'roedd Wil yn cerdded o amgylch y dref yn holliach

18 - Fyddai ymweliad ag Abertawe ddim yn gyflawn heb gael blasu'r bara lawr enwog yn y farchnad

19 - Sôn am win (i'w yfed), ac nid gwynt, mae enw'r stryd fwyaf enwog i'r yfwr, Wind Street.  I'w ynganu'n gywir mae angen ei ddweud fel "waind strit"

20 - Mae Abertawe yn gartref i ddegau ar ddegau o fwytai Indiaidd.  Os am gyri - dere 'ma!  Heol St Helen yw'r lle gorau

21 - Dydy clybiau nos enfawr y Kingsway ddim ond yn hwyl pan ti'n hollol chwil ac mewn criw sydd eisiau hwyl

22 - Mae Tyrfe Tawe am ddim!

23 - Mae traddodiad cerddoriaeth fyw Abertawe yn dal i fod yn egniol.  Mae nifer fawr o dafarnau gyda grwpiau'n canu bob nos.  Oddeutu 50 bob nos os ydych chi'n credu rhestrau gigs y papur lleol.  Lle gorau am gig ar unrhyw noson?  Uplands Tavern, Adam & Eve, The Office, a Ty Tawe wrth gwrs!

24 - Nawr fod yr Who wedi canu yn Stadiwm y Liberty... tybed beth fydd lleoliad Tyrfe Tawe ymhen 10 mlynedd

25 - Tyrfe Tawe yw gŵyl Gymraeg orau Cymru

 

l


©2007 Tyrfe Tawe

Polisïau Tyrfe Tawe

Fersiwn i'w Argraffu