3ydd Gwyl
Tyrfe Tawe
Hydref 11 - 15 2006
Gair o'r Gadair
Croeso nol! Hyderwn i chi gael blas ar ddigwyddiadau’r Brifwyl yn y ddinas ar ddechrau mis Awst a’ch bod bellach yn ysu am Dwrw’r Tyrfe i barhau â’r wledd o weithgareddau a welwyd yn y ddinas yn ystod 2006. Yn wir, roedd hi’n anodd credu’r niferoedd oedd i’w gweld yn y nosweithiau amrywiol gydol yr wythnos, yn drigolion lleol ac yn Gymry o bob cwr o’r wlad. Ein gobaith yw y bydd arlwy gwych Tyrfe 2006 yn denu cymaint o bobl yn ôl am fwy o hwyl Cymraeg a Chymreig yn y ‘Second Siti’! Cofiwch – does dim hyd yn oed disgwyl i chi dalu i fwynhau digwyddiadau gwych Tyrfe Tawe – mae’r cyfan yn rhad ac am ddim.
Yr un criw gwirfoddol sydd y tu ôl i holl gynlluniau 2006, ac wedi’r holl baratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, rhaid oedd bwrw ati i sicrhau bod Gŵyl 2006 yn well na’r ddwy flaenorol - tipyn o her!
Eleni, rydym yn cynnig pum prif sesiwn, 4 sesiwn gerddorol ac un sesiwn newydd sbon i agor yr Ŵyl. Agorir Tyrfe eleni gyda sesiwn ‘Pictiwrs yn y Pyb’, cyfle i werthfawrogi dawn rhai o’r cyfarwyddwyr ffilm amlycaf yn ein Prifysgolion wrth iddynt ddangos eu ffilmiau byr. Cyflwynydd arbennig y noson hono fydd y ffilm byff o Gwmann, neb llai na Gary Slaymaker.
Os ydych yn awyddus i ddangos eich talentau a chymryd rhan yn yr Ŵyl, yna Tafarn y Queens yw’r lle i chi, Nos Iau y 12fed. Arweinir y noson gan y ffidlwyr Dan Morris a Marc Weinsweig a bydd rhai o fandiau gwerin amlycaf yr ardal yn ymuno â hwy. Dewch i ddangos eich dawn ac ymuno yn yr hwyl – roedd hon yn noson wych llynedd, a’r dafarn yn orlawn cyn 9.
Datblygiad cyffrous eleni yw’r Gig i’r Ifanc. Teimlwyd y dylem gynnig cyfle i’r to iau fwynhau bwrlwm y sîn roc ar stepen y drws. Dyma awr fawr y band ifanc lleol ‘Yr Angen’ a fydd yn cael y cyfle i rannu llwyfan ag un o brif fandiau Cymru yng Nghanolfan Tŷ Tawe. Ar yr un pryd, cynhelir y gig nostalgia yng nghwmni tri o hen ffefrynnau’r fro, Merched Becca, Crys a’r gŵr o Dreforys, Neil Rosser sydd yn dychwelyd i’r Adam and Eve am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Uchafbwynt 2006 yw’r gig mawreddog yn Amgueddfa’r Glannau – a dyma beth fydd lleoliad gwych. Cewch dau gig yn hytrach nag un yma! Edrychwn ymlaen yn fawr i glywed prif artistiaid Cymru yn taranu ar y llwyfan acwstig yn y Café ac ar y prif lwyfan yn y Neuadd.
Hawdd yw gallu canmol gwaith yr Eisteddfod am greu cynnwrf a bwrlwm mewn ardal am gyfnod – ein gobaith yw bod y bwrlwm hwnnw am barhau. Hyderwn y bydd blwyddyn o gynllunio ac o waith diflino yn dwyn ffrwyth ac y cawn groesawu cynulleidfa o ardal eang i fwynhau’r wledd. Dewch draw!
Catrin Rowlands
Cadeirydd Tyrfe Tawe
