Cyhoeddi ar ddiwrnod y Cyhoeddi!
I gyfeiliant band pres Penclawdd ar hyd stryd Rhydychen a thrwy ganol Sgwâr y Castell gorymdeithiodd criw o aelodau’r Tyrfe b’nawn Sadwrn y 25ain o Fehefin gan gyhoeddi dyddiadau’r Ŵyl eleni.
Cymaint oedd y dorf a ddaeth i weld y prosesiwn nes y bu’n rhaid galw am gymorth i frwydro’n ffordd tua’r sgwar – pawb yn ysu i gael nodi’r dyddiadau pwysig yn eu dyddiaduron poced.
Braf oedd gweld cefnogaeth rai o hoelion wyth y genedl yn gorymdeithio y tu ôl i’r criw, yn eu plith roedd sawl prifardd, ambell gerddor ac ambell wyneb cyfarwydd o’r cyfryngau (edrychwch yn ofalus - ydyn ma nhw yna wedi’u gwisgo’n ddeniadol mewn gwyrdd, glas neu wyn!) Hyderwn y byddant oll yn heidio unwaith eto i’r ddinas ym mis Hydref i ganol y miri a diolch am eu cefnogaeth.
Felly cofiwch am benwythnos y Tyrfe, 13eg – 16eg o Hydref 2005. Fe ddaw cyhoeddiad arall yn fuan i nodi lleoliadau’r holl fwrlwm a fydd yn digwydd eleni eto yng nghanol dinas Abertawe! Mynnwch olwg yn gyson ar y wefan am y wybodaeth diweddaraf!
Catrin