Trefnu
Gwyl Cerddoriaeth Gymraeg yn Abertawe – duw, pam lai!
Dyna’r syniad a gafwyd un noson feddwol
boncyrs ym mis Ionawr wrth i’r mwyafrif o’r criw gyfarfod am y tro
cyntaf yn ail ddinas Cymru.
Wedyn o ystyried y cynnig, meddwl nad oedd hi’n syniad mor wirion wedi’r cyfan – mae yna rai i’w cael yn Llanrwst, Nefyn, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth i enwi m’ond rhai.
Ond hei! Mae yna Gymry Cymraeg lawr yn y De hefyd.
Felly dyma fwrw iddi a ffurfio pwyllgor – wel ,mae’n rhaid wrth un o rheini os am lwyddo i wneud rhywbeth yn iawn ‘does! Cytunwyd y dylid trefnu Gwyl yn Abertawe, ac fe adawodd un dyn bach pwysig y noson â swydd, do, diolch byth fe gynigiodd Chris y byddai ef yn ceisio cadw trefn arnom yn ystod y misoedd nesaf fel ein ysgrifennydd. Dilynodd Gareth ei arweiniad, ac fe’i apwyntiwyd yn is-ysgrifennydd, neu ai’r llyfr bach cofnodion seicadelig a fachodd ei sylw – pwy a wyr? Fo oedd y cyntaf i adael ei farc arno ta beth!
Daeth mwy i’r ail gyfarfod – dwn i ddim os am helpu neu a oedd y si ar led yn barod bod Nos Fawrth yn noson reit gymdeithasol yn dilyn cyfarfod. Penodwyd gweddill y swyddogion, ac fe gafwyd ambell drafodaeth reit danllyd, enwir neb, ond mae’n braf gweld bod un neu ddau o swyddogion y Mentrau Iaith yn medru dadlau’u hachos mor bendant a di-flewyn ar dafod! Cafwyd enw addas ymhlith yr awgrymiadau lu – na, dydw i ddim am restru’r rhai oedd yn agos i’r brig! Rhoddwyd briff i’r artist i gynllunio logo ar ein cyfer – erbyn y cyfarfod canlynol, ac i ambell un fynd i wneud ymchwil hwnt ac yma.
Y Gadeiryddes a’r Is-Gadeiryddes gafodd y gwaith o wneud ymchwil ar leoliadau, bu cryn bori trwy’r Llyfr Mawr Melyn wrth geisio cael gafael ar neuaddau a thafarndai mwya’r ddinas. Derbyniwyd hefyd y syniad efallai y gellid cynnal yr Wyl mewn cae ac fe aethpwyd ati i edrych am safleoedd posib i’r perwyl hynny hefyd. Y broblem ydy, na faswn i byth eto yn annog danfon dwy (nad sy’n gyfarwydd iawn â’r ardal tu hwnt i’r ddinas) allan o gyffiniau Abertawe wedi 7 o’r gloch nos ym mis Mawrth i edrych am gae! Digon yw dweud na welwyd yr un cae addas!!
Diolch byth, fe ddechreuodd pethau ddod i drefn. Erbyn y cyfarfod nesaf, llwyddodd Dylan i greu rhestr o fandiau a oedd yn barod i ystyried chwarae yn yr Wyl – HWRE! (felly dim ond lleoliad/arian/P.A/hysbysebu/cyfansoddiad/logo/cyfrif banc/gwefan…..! i’w cwblhau)
Dechreuodd y sgwrsio fynd yn ddifrifol, rhaid oedd wrth gyfreithwraig i’n rhoi ni ar ben ffordd, ac yn ffodus iawn roedd yna ferch leol yn barod i ymuno – a derbyn y teitl “y Jac cynta’ ar y pwyllgor!!”
Penderfynwyd y dylai pawb fod yn rhan o’r criw ymchwil ar gyfer lleoliad wedi i ni wneud y penderfyniad mai doeth fyddai aros yn y ddinas – wedi’r cyfan gwyl Abertawe yw hon. Trefnwyd crôl ymchwil, er mwyn gwenud yr holl beth yn swyddogol, gan ddechrau wedi’r Clwb Gwener. Dim ond ryw 5 oedd yn ddigon dewr i’w mentro hi’r tro cynta, cyrrhaeddwyd y dafarn gynta ar y restr ac yna roedd hi’n stop tap! Llwyddwyd i ddenu’r mwyafrif ar yr ail gynnig ac fe’u swynwyd hwy cymaint gan yr Adda ac Efa hefyd fel na lwyddodd neb i ddianc cyn y gloch unwaith eto. Oleia roedd un lleoliad yn saff!
Os am wyl lwyddiannus yn yr Hydref roedd yn rhaid sicrhau bod pobl wedi clywed amdani ddigon o flaen llaw, cymaint oedd y cynnwrf aethpwyd ati ar unwaith i drefnu noson lawnsio swyddogol cyn i ddigwyddiadau eraill ymyrryd yn ystod yr haf. Trefnwyd dyddiad a lleoliad yn sydyn iawn. Pwy ddylid gwahodd? Pa dalentau oedd gan Abertawe? Pa liw fyddai’r tocynnau? Sawl tocyn allwn ni werthu? A fydd y logo’n barod mewn amser i greu Crysau – T? Faint o sylw gawn ni o’r Cyfryngau? Cewch y manylion ar dudalen y noson lawnsio.
Ac felly, dyna ni, hanes ‘Tyrfe’ hyd yn hyn …. O ia, a gyda llaw, tydi B Jones ddim yn aelod o'r pwyllgor hwn.