Ymunwch â Ni
Mae pwyllgor Tyrfe Tawe yn cyfarfod bob nos Fawrth am 7.45pm yn nhafarn y Brunswick yn Abertawe (3 Duke Street - Map i'w weld YMA). Mae'r pwyllgor yn agored i bawb, i ddweud y gwir mae'r criw sy'n cyfarfod (y gair "pwyllgor" ychydig yn rhy swyddogol i ddisgrifio'r math o noson a gynhelir!) yn awyddus i ragor ymuno a'r criw. Bellach mae tua 15 yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae aelodau newydd yn ymuno yn rheolaidd, felly DERE DRAW!
Mae'r cyfarfodydd yn hwyliog, yn rhoi cyfle am beint ac yn "reswm bod" i'r wyl ar wahan i'r wyl ei hun! Hynny yw, mae'r ymgynull yn rheolaidd am hwyl yn y Gymraeg yn hollbwysig ac mae trefnu'r wyl bron yn esgus ar gyfer cael cyfarfod fel hyn! Wedi'r cyfarfod fel rheol bydd pawb yn cael sgwrs a pheint.
DERE DRAW!
Os am gadarnhau'r dyddiad neu'r lleoliad ar gyfer y cyfarfod nesaf - cysylltwch â Chris. Mae ei gyfeiriad e-pistol YMA.