TYRFE-TASTIG!!!
Aeth ‘Tyrfe Tawe’ heibio am y tro cyntaf. Teimlir olion y tyrfe yn awr, ac mae cynnwrf yn yr awyr ar ddiwedd penwythnos llwyddiannus dros ben.
Roedd pawb yn ysu am flasu ychydig o gerddoriaeth werin a roc Gymraeg yn ninas Abertawe, cyffro na welodd y ddinas mo'i debyg o'r blaen. A phan ddaeth y tyrfe, fe drawodd Abertawe'n galed!
Nos Wener
Pa gwell ffordd o ddechrau’r penwythnos na noson gyda'r uchafbwynt yn ymddangosiad yr eicon yng ngherddoriaeth Gymraeg, Meic Stevens, gyda’r Adam and Eve dan ei sang? Roedd y lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer gig o’r fath yma, ac yn creu naws agos atoch.
Dechreuodd y noson yn gynnar gyda Niem, band o Gwm Tawe, a ddiddanodd y dorf oedd yn raddol gynyddu. Cafwyd cymysgedd mawr ganddyn nhw o jazz a hip-hop, gan gynnwys y trac 'Creda Fi' sy'n gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru erbyn hyn. Ymgartrefodd y dorf gyda'u cerddoriaeth, oedd â sain gyfoethog iddi. Gwyliwch mas amdanyn nhw - maen nhw'n sicr o fod yn fand disglair iawn yn y dyfodol agos!
Nesa' i berfformio oedd 'Fflur Dafydd a'r Band' o Sir Gâr. Mae Fflur eisoes yn adnabyddus iawn i'w chynulleidfaoedd fel cyn-aelod o'r 'Panics'. Cafodd ei chyfle i wefreiddio'i dilynwyr am y tro cyntaf fel cantores drwy fod yn brif leisydd y band newydd hwn. A dyna i chi lais!!! Perfformiodd ei chaneuon gydag angerdd a hyder, a gyda dylanwad blŵsaidd arni, dw i'n oedi cyn dweud bod naws braidd yn Americanaidd i'r 'Adam and Eve'. Ond roedd y sain yn un a fwynhawyd gan dyrfa'r 'Tyrfe'! Dyma lais y byddai'n dda gan bawb ei chlywed yn Abertawe eto cyn hir!
Dychwelodd Neil Rosser i'w wreiddiau am yr ail waith i 'Tyrfe Tawe' eleni, yn dilyn ei berfformiad yn y noson lansio yn Nhŷ Tawe ym mis Mai. Gwerthfawrogai bawb ei ganeuon trawiadol, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n gyfeiriadau at yr ardal hon. Llenwai'r seiniau jazz y dafarn, gyda'i lais pwerus yn asio'n effeithiol gyda'r gitâr. Fe ddechreuodd e gydag 'Ochor Treforys o'r Dre', gan adeiladu i fyny at un o'i ganeuon mwyaf adnabyddus, sef ei addasiad ei hun o'r 'Brown Eyed Girl', sy'n dwyn y teitl 'Merch o Bort'. Gellid teimlo pwysigrwydd yr achlysur iddo fe, wrth ei glywed yn gwneud sylwad mwyaf cofiadwy'r penwythnos. 'Wnes i erioed feddwl y bydde gig Cymraeg yn yr Adam and Eve, Abertawe'. Gyda sylwad fel hyn, gellid synhwyro balchder pobl y ddinas yn nigwyddiad o'r fath yma, a'i falchder yntau o fod yno. Dyma gyfraniad i'r achlysur a werthfawrogwyd yn fawr iawn gan y dorf.
Roedd y dyrfa, oedd yn gymysgedd enfawr o ran oed, yn barod mewn hwyliau ar gyfer parti erbyn i Meic Stevens ddechrau ei set, ac yn barod i rocio i seiniau clasuron y ‘Brawd Houdini’ mewn tafarn sydd yn enwog am ei cherddoriaeth byw. Roedd disgwyliadau uchel gan bawb, a chafodd yr un ohonom ein siomi. Dyma Meic Stevens ar ei orau yn sicr! Cawsom wledd o'i oreuon o 'Môr o Gariad' i 'Cân Walter', ac un o'r uchafbwyntiau oedd clywed 'Rue St Michel' - seiniau bob un yn llenwi'r lle! Doedd neb eisiau i'r noson i orffen, ac roedd pawb yn ymbil arno am fwy. Clowyd y noson gydag 'Erwân', a chychwynnwyd cerddoriaeth yr Ŵyl mewn steil!
Dydd Sadwrn
Symudodd hwyl yr Ŵyl i'r 'Subterranea' am ddiwrnod cyfan o adloniant cerddorol. Dechreuodd y diwrnod gyda cherddoriaeth gwerin gan y grŵp lleol, 'Y Bachgen Glas' a berfformiodd fersiwn unigryw, wych o 'Arglwydd, Dyma Fi'. Ychwanegwyd at y naws werinol gyda set gan 'Mari Lwyd', band gwerin 'Tyrfe Tawe'. Rhaid dweud mai’r trac sy’n sefyll allan i fi yw ‘Nos Fawrth yn Abertawe’. Bu Pwyllgor y 'Tyrfe' yn cwrdd yn rheolaidd ar nos Fawrth i drefnu’r ŵyl, ac mae’n hawdd felly i weld pam fod y gân mor addas i ‘Tyrfe Tawe’.
Cafwyd cyferbyniad rhwng 'Mari Lwyd' a Lisa Pedrick (nid lleia' am ei bod hi dipyn yn fwy golygus na bois y band!!!). Daeth hi i'r llwyfan yng nghwmni Gethin Thomas, gitarydd 'Gwacamoli' sy'n teithio'r wlad gyda'r gantores leol ar hyn o bryd. Mae Lisa yn un o ddarganfyddiadau Rhys Mwyn, cyn-aelod o fand yr 80au, 'Anrhefn'. Roedd ganddi lais pwerus iawn, ac roedd ei pherfformiad yn egnďol dros ben.
Amrywiwyd ar y gerddoriaeth gyda set fywiog gan 'Stics' i ddechrau elfen roc y noson. Dyma fand newydd sydd wedi'i leoli yn Aberystwyth, ond gyda sawl aelod o'r ardal hon. Fe dderbynion nhw groeso cynnes iawn i Abertawe. Perfformion nhw set gwbl gwreiddiol ac maen nhw'n fand sydd â dyfodol disglair ar y sîn Gymraeg. Roedd y band hwn ag agwedd roc'n'rôl o'r dechrau i'r diwedd!
Efallai y daeth y foment roc'n'rôl fwyaf gydag ymddangosiad 'Lo-Cut a Sleifar' a berfformiodd ambell drac oddi ar eu halbwm newydd, 'Miwsig i'ch Traed a Miwsig i'ch Meddwl'. Efallai eu bod yn rapwyr gyda digon o agwedd ffwrdd-â-hi', ond doedd hyn ddim yn ddigon i rwystro'r bownsars rhag cymryd caniau lagyr oddi ar Steffan a Curig! Cafwyd momentau o hip-hop a ffync rhwng y rap.
Roedd ‘Subterranea’, seler y ‘No Sign Wine Bar’, yn lleoliad gwych Ddydd Sadwrn, gyda digon o le ac roedd y tymheredd yn eithaf oer - dwy elfen o’r lle a werthfawrogwyd gan y rheini yn y dorf oedd yn dawnsio’n egnďol am ran fwyaf y noson. 'Frizbee' oedd y band a gafodd y gynulleidfa ar eu traed yn y lle cyntaf. Croesawyd y bois o Flaenau Ffestiniog yn ôl i 'Tyrfe Tawe', wedi iddyn nhw gynnal gig yn gynt yn y flwyddyn i godi arian at yr achlysur. Cymerodd y dorf atyn nhw o'r dechrau un, ac fe ymatebodd Ywain Gwynedd i'w symudiadau i greu perthynas agos rhwng y band a'r dorf. Roedd y set yn cynnwys nifer o ganeuon oddi ar eu halbwm cyntaf, 'Hirnos', ac fe fwynhawyd pob un ohonyn nhw.
Daeth 'Boys From The Hill' â blas ychydig yn wahanol i'r diwrnod, gyda'u cymysgedd o ganeuon roc trefol (urban rock). Uchafbwynt y set yma i nifer oedd eu fersiwn o 'Cwrw Melyn Bach'. Gwych oedd clywed cân yn Gymraeg gan fand sy'n canu'n bennaf yn Saesneg.
Y band olaf cyn yr uchafbwynt oedd 'Kentucky AFC', band a allai fod wedi cynnal diwedd noson arferol, ond nid noson arferol mo nos Sadwrn 'Tyrfe Tawe'!!! O'u clywed nos Sadwrn, dyw e hi ddim yn syndod iddyn nhw ennill nifer o wobrau eleni. Dawnsiodd y dorf i draciau o'r albwm newydd, 'Outlaw 11' sydd bellach ar gael ac yn werth ei gael. Roedd eu perfformiad yn broffesiynol ac fe gawson nhw'r dorf yn rocio!
O'r diwedd, daeth y gwesteion arbennig i'r llwyfan i ddod â'r llen i lawr ar y nos Sadwrn. Roedd 'Bob Delyn a'r Ebillion' yn ddiweddglo annisgwyl, efallai, o ystyried y fath o gerddoriaeth maen nhw'n ei chwarae. Wedi dweud hyn, roedden nhw wrth fodd y dyrfa gyfan. Roedd dawns y ‘Conga’ yn digwydd ar un adeg, hyd yn oed! Un o gryfderau'r set yma oedd y dylanwad Lydaweg, gan roi naws Geltaidd i'r achlysur. Perfformion nhw restr faith o glasuron, o 'Gwely Pres' i 'Pethau Bychain Dewi Sant'. Siom oedd methiant Twm Morys i ymateb i apęl y dorf am iddo ganu 'Gerfydd Fy Nwylo Gwyn' cyn cloi'r noson! Serch hyn, cafwyd terfyn llawn naws i’r noson, gyda fersiwn unigryw Twm Morys o’r Anthem Genedlaethol. Gyda phawb erbyn hyn yn llawn emosiwn, gwelwyd ambell ddeigryn yn llygaid Pwyllgor y 'Tyrfe', hyd yn oed! Roedd 'Bob Delyn a'r Ebillion' yn ddiweddglo gwych i ddiwrnod gwych.
Dydd Sul
Roedd gig acwstig Mattoidz a Huw Chiswell yn ddiweddglo gwych i’r penwythnos, mewn awyrgylch ymlaciedig yn Nhŷ Tawe (a'r Pwyllgor yn dechrau edrych ychydig yn flinedig erbyn hyn!). Roedd yr awyrgylch yn gyferbyniad a groesawyd gan y sawl oedd wedi bod yn dilyn y cyfan dros y deuddydd blaenorol.
Roedd hi'n brofiad newydd i nifer i gael clywed Mattoidz yn chwarae set acwstig. Yr un oedd ansawdd eu canu, wrth iddyn nhw berfformio 'Tan y Tro Nesa', y trac a ddaeth â nhw i'r amlwg yn wreiddiol. Fe orffennon nhw'r set gyda'u sengl newydd, 'Y Dyn Telesales', sydd eto yn swnio'n wahanol (mewn ffordd bositif) yn acwstig. Bydd croeso cynnes iddyn nhw yn Nhŷ Tawe unwaith eto mewn ychydig wythnosau pan fyddan nhw'n perfformio mewn gig 'Gwener y Grolsch' ar Hydref 29ain.
Daeth y cylch yn gyflawn wrth i Huw Chiswell gloi'r Ŵyl, gan ei fod yn un o'r perfformwyr yn y noson lansio ar ddechrau taith y 'Tyrfe'. Hoeliwyd sylw'r dorf gan ei set ar y gitâr i ddechrau, ac yna ar y piano am ddilyniant o'i glasuron. Ie, mi gawson nhw i gyd eu perfformio - 'Tadcu', 'Cân Joe', 'Baglan Bay', - ynghyd â sawl trac oddi ar yr albwm newydd, 'Dere Nawr', gan gynnwys yr iasol 'Gadael Abertawe', 'Chwilio dy Debyg', a 'Dere Nawr'. Daeth i ben gydag 'Y Cwm', ond roedd y dorf yn amharod i adael iddo fynd heb encôr! Daeth yn ôl at y piano i gloi gyda 'Rhywbeth o'i le'.
Ac felly, daeth i ben deithio byd i 'Tyrfe Tawe 2004'. Bu'r penwythnos yn llwyddiant ysgubol, ac mae pawb yn dal i fod ar Gwmwl 9!
Un ffordd yn unig sydd i ddisgrifio 'Tyrfe Tawe' - 'Tyrfe-tastig!' (ie - fe gyflwynwyd gair newydd i'r iaith Gymraeg gan Catrin Rowlands!!!).