Llychede

Felly mae Tyrfe Tawe yn hanes. Yr wyl Gymraeg ei hiaith gyntaf yn Abertawe wedi bod, ond nid yr olaf. A gwyl Gymraeg oedd hi hefyd! Pob un band ar wahan i'r Boys From the Hill a Bob Delyn a'r Ebillion yn canu yn uniaith Gymraeg! Bob Delyn yn canu yn y Gymraeg a Llydaweg tra fod y Boys From the Hill, sydd yn grwp gwerin o Townhill, yn canu yn Saesneg fwyaf, ond ar gyfer Tyrfe Tawe 'roedd eu set yn cynnwys nifer o ganeuon Cymraeg yn cynnwys Ffarwel i Langyfelach Lon a'r Cwrw Melyn Bach. 'Roedd cannoedd o Gymry Cymraeg wedi gwneud yr ymdrech ac wedi dangos eu cefnogaeth drwy fynychu. O mor braf oedd cerdded i mewn i siop sglodion ar Wind Street ar nos Sadwrn a chlywed y lle yn fwrlwm o'r iaith Gymraeg.

Fuoch chi yno? Glywsoch chi grwp gwerin yn canu caneuon Cymraeg ar Stryd Rhydychen/Oxford Street? Welsoch chi'r brwdfrydedd wrth i Neil Rosser ganu am Ochr Treforys o'r Dre a Nos Sadwrn Abertawe? A deimloch chi'r un wefr a wnes i wrth weld cannoedd o kids ifanc yn gwirioni'n bot ar wrando ar y grwp Frizbee. Tybed sawl un o'r trefnwyr wnaeth hanner ddyfaru trefnu unrhywbeth ar y foment honno? Degau o bobl ifanc yn dawnsio'n wyllt a'r bariau i'w cadw oddi wrth y band yn gwegian! Ond 'roedd hi'n braf gweld ieuenctid yn mwynhau yn y Gymraeg. Yn tanio i'r diwylliant cyfoes Cymraeg.

Braf hefyd oedd gweld rhai ohonom, y criw ychydig yn hyn, yn dangos ein cefnogaeth hefyd yn yr ymryson ac wedyn ar y prynhawn Sul i wrando ar Huw Chiswell (ac ambell un yn cefnogi pob digwyddiad – diolch i chi). Mae’r ffaith fod Tyrfe Tawe yn cael ei drefnu o gwbl yn dangos cyfoeth lleol nid yn unig o ran y trefnwyr, ond hefyd o fedru dweud fod ¾ o’r grwpiau a ymddangosodd yn byw o fewn ½ awr o ganol Abertawe! Gwych! Dyna roi stamp Abertawe ar y sin roc a gwerin Gymraeg unwaith ac am byth.

I rhai hynny o bobl Abertawe, yr 50,000 ohonoch bron, sydd yn medru'r Gymraeg y trefnwyd yr wyl hon. I'r rhai hynny gefnogodd, diolch. Ymhen blynyddoedd i ddod bydd rhai ohonom yn medru dweud ein bod ni wedi bod yno.

Mae Tyrfe Tawe wedi costio £10,000 i'w gynnal. Mae'r arian hynny wedi ei hel drwy nawdd, elw o nosweithiau drwy'r flwyddyn, gwerthiant nwyddau a chyfraniadau hael iawn gan lawer ohonoch. Mil ddiolch i chwi. Mae llawer o nwyddau ar ôl (crysau-t, rhaglenni a beiros) – os am gyfrannu mae croeso i chwi brynnu rhai o'r nwyddau hyn sy'n weddill.

Nid dyma'r diwedd i Tyrfe Tawe, wrth gwrs. Bu cryn drafod eisoes ynglyn â threfnu gwyl flwyddyn nesaf, mae'r dyfodol yn ddisglair i'r wyl. Fodd bynnag, mae sôn eisoes am drefniadau am barti Nadolig enfawr ac edrychwn ymlaen at hynny. Os hoffech chwi wybod mwy amdano ymwelwch â www.tyrfe-tawe.com ble mae lluniau ac adolygiadau o'r wyl eisoes i'w gweld.

Y DDAFAD GOLLEDIG