Yr iaith a ddychwel i’r dre – un ethnig
Benwythnos;
ein Tyrfe
Rydd fraw i Abertawe,
Yn un llais - deffrown y
lle.
Yn iach clywch Stryd Rhydychen - A’r heniaith
Yn
rinwedd, nid acen;
Hyhi
fydd ar Kingsway hen
Yn
rywiog ei chystrawen.
Yn firi yn Nrheforys – a hwyliog
Fydd
Townhill afiaethus,
Cymraeg fydd llêf pob gwefus
Yn llon, o’r dafarn i’r
llys.
Yn raenus bydd iaith gwerinwr - Yn drech
Na’r Wind Street a’i
ddwndwr;
Yn
herio â iaith arwr
Heno
down i godi stŵr.
Yn rhugl daw yn ôl i’r dref, – y dafod
Ail-dyfa’n
ein cartref;
Yr iaith ym mwrlwm y rêf
Yn gydradd mewn gig Hydref.
Bydd alaw yn Abertawe – a seiniau
I’n
swyno, hyfrydle;
Yn
anorfod – ein Tyrfe
A’n
hen iaith wna seithfed ne’.
Huw Dylan Owen
30 Mai 2004