Clwb Gwener

Wyt ti'n siarad Cymraeg ac am gymdeithasu yn Abertawe?  Wyt ti'n hoff o awyrgylch anffurfiol i gael hwyl?

Yn nhafarn y Builders Arms ar Heol Rhydychen/Oxford Street yng nghanol y ddinas bob nos Wener am 5 yr hwyr mae criw o Gymry'r ddinas yn cyfarfod am beint a chlonc.  Mae'n gyfarfod hollol anffurfiol di-drefn gyda rhai yn cyrraedd am 5pm yn syth o'r gwaith ac yn gadael am adref am 6pm, tra fod eraill yn dewis cyrraedd am 6pm neu'n hwyrach, ac eraill wedyn yn dewis gwneud noson iawn allan ohoni!  Ambell i noson mae 20 yn cwrdd yno, ond ar noson arall efallai mai dim ond 3 neu 4 ddaw.  Mae'r cyfan yn dibynnu arnoch chi! 

Os ydych ychydig yn swil a ddim am fynd i dafarn ddieithr am y tro cyntaf eich hunan cysylltwch a Chris (mae ei gyfeiriad e-pistol ar gael YMA) ac fe drefnir eich cyfarfod o flaen llaw.  Cysylltwch.

Mae croeso i bawb i Glwb Gwener.  Rheswm am beint a ffordd i ddod i adnabod Cymry Cymraeg eraill yn y ddinas.

Builders Arms, 36 Heol Rhydychen, Abertawe SA1 3HT.       Map o'r ardal YMA gyda cylch o amgylch ardal y dafarn.

Dere draw!