Mae lincs i gyfansoddiad Tyrfe Tawe ac ambell bolisi ar waelod y ddalen hon.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Dyma'r araith a draddodwyd gan Catrin Rowlands, Cadeirydd Tyrfe Tawe, ar ddechrau Noson Lansio Tyrfe Tawe ar 30 Mai 2004:

-----------------------

Gyfeillion,

Mae ‘na gynnwrf yn yr awyr yn Abertawe eleni.  Mae ‘na wefr ryfedd.  Na, nid awyrenau am ein bomio y tro hwn.  Na, nid yr Elyrch am enill.  Na, nid Heini Gruffudd yn ei wisg orseddol sy’n creu cynnwrf gyda’r merched glandeg!  Na, nid yw jac yr undeb wedi ei ostwng ar neuadd y sir.  Na, dim canolfan hamdden yn ailagor, dim twnel newydd o dan y ddinas, dim swyddi cynulliad i ddod yma, na - dim chwyldro..  OND, mae ‘na rhyw gynnwrf mawr yma ac mae pethau’n poethi.  Does gen i ddim esboniad! 

Un peth y gallaf ddweud wrthych yw fod  TYRFE TAWE am ddangos i’r byd fod y Gymraeg yn fyw o hyd yn Abertawe.  Mae Tyrfe Tawe am ddangos i Gymry Cymraeg Abertawe, y deugain mil ohonynt (!), fod yr iaith Gymraeg yn fyw, yn gyfoes ac yn gyffrous.  Mae’r storom Gymraeg ar gerdded yn Abertawe. 

Criw bach ohonom sydd wedi dechrau cyfarfod bob nos Wener yn nhafarn y Builders yng nghanol y ddinas ar ol gwaith sydd wedi mynd ati i wneud hyn.  Mi ddaethon ni i adnabod ein gilydd drwy ymdrechion clodwiw Gwener y Grolsch y Fenter Iaith yma yn Abertawe.  Bellach mae’r criw yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos am beint a sgwrs ac mae croeso i chi i gyd i ddod atom ni!  Dewch nos Wener nesaf am 5.30pm!

Mae’r bwystfil wedi dechrau cerdded.  Mae’r logo ffantastig yma tu ol imi wedi ei gynllunio gan Arwel Micah.  Mae’r wyl ei hunan wedi dechrau cropian hefyd – mae clwb nos yng nghanol Wind Street, ardal tafarnau a chlybiau Abertawe, wedi ei logi ac mi fyddwn yn falch o fynd a cherddoriaeth Gymraeg i Wind Street.  Cawn hwyl yn cenhadu!  Ymwelwch a’r safle wê (www.tyrfe-tawe.com) i gadw llygad ar y digwyddiadau diweddaraf.  Nid gwyl fydd Tyrfe Tawe ond digwyddiadau a ffordd o fyw!

Mae heno am fod yn noson arbenig iawn iawn.  Dwi’n teimlo fatha arweinydd eisteddfod yn dweud hyn, ond mae’r drysau wedi cau!  Dwi’n gobeithio y gwnewch roi’r parch dyledus i’r artistiaid yma a gwrando arnynt yn canu a gobeithio yn rhanu ambell stori rhwng y caneuon.  Mae pawb wedi rhoi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim heno, gyda’r artistiaid, y ganolfan a phob dim am ddim.  I ddweud y gwir mae’r artistiaid a Ty Tawe wedi bod yn fwy na pharod i gefnogi ac ‘rydyn ni yn diolch iddyn nhw yn fawr iawn.  Nawr, ar ol y sgwrs yma mi fydd Heini Gruffudd yn arwain y noson ac yn ein llywio’n ddiogel, gobeithio, drwy stormydd, llychede a thyrfe Tawe.

Oes, mae ‘na gynnwrf yn yr awyr yn Abertawe eleni.  Mae ‘na wefr ryfedd.  Na, nid awyrenau am ein bomio y tro hwn.  Na, nid yr Elyrch am enill.  Na, nid Heini Gruffudd yn ei wisg orseddol sy’n creu cynnwrf gyda’r merched glandeg!  Na, nid yw jac yr undeb wedi ei ostwng ar neuadd y sir.  Na, dim canolfan hamdden yn ailagor, dim twnel newydd o dan y ddinas, dim swyddi cynulliad i ddod yma, na - dim chwyldro..  Y cynnwrf yw dyfodiad Tyrfe Tawe – Gwyl orau Cymru – yng nghanol Abertawe! 

========================================================================================

Cyfansoddiad Tyrfe Tawe                                Polisi Amddiffyn Plant Tyrfe Tawe                               Datganiad Cyfle Cyfartal Tyrfe Tawe